top of page
GG7.jpg

AMDANOM

 

Rydym yn perfformio nifer o ddawnsiau Cymreig traddodiadol o bob rhan o Gymru ac o ganrifoedd gwahanol.  Mae rhai o’r dawnsiau’n araf ac yn fonheddig, ond mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n fywiog.  Fe’n gwelir yn aml yn dawnsio tu allan yn ystod y gwanwyn a’r haf. Rydym ar gael i chi ein bwcio lle cynigiwn arddangosfeydd yn cynnwys cyfleoedd i’r gynulleidfa cymryd rhan. 

Gwneir ein gwisgoedd o wlanen draddodiadol Gymreig amryliw â phatrymau gwahanol. Ar brydiau, bydd y menywod yn gwisgo hetiau tal Cymreig, yn enwedig wrth berfformio Dawnsio Rîl Llanofer. Felly, rydym yn coffáu yr Arglwyddes Llanofer (1802 – 1896), a ymgyrchodd i hyrwyddo’r Gymraeg yn ogystal â diwylliant a gwisg Gymreig mewn ardal a welai ddirywiad yn y traddodiadau hyn.

ABOUT US

 

We perform a variety of traditional Welsh dances from different parts of Wales and from different centuries.  Some of our dances are slow and courtly in style, but most are lively. We are often seen dancing outdoors during spring and summer.  We are available for bookings where we offer displays, including audience participation. 

Our costumes are made from traditional Welsh flannel in a variety of colours and patterns.  On occasions, our ladies wear the tall Welsh hat and for a particular dance, Llanover Reel. We thus commemorate Lady Llanover (1802-1896), who strived to promote the Welsh culture, language and costume in an area which had seen a decline in these traditions.

HANES

 

Grŵp dawnsio gwerin Cymreig yw Gwerinwyr Gwent a sefydlwyd yn 1976 er mwyn hyrwyddo diwylliant Cymru a thraddodiad cerddoriaeth a dawnsio Cymreig.

Dros y blynyddoedd, mae aelodau o’r tîm wedi cystadlu mewn sawl Eisteddfod Genedlaethol. Rydym wedi ymweld â gwyliau yng Nghymru, yn Lloegr ac ar draws Ewrop yn ogystal â chroesawu timau o dramor wrth iddyn nhw ymweld â Chymru.

Yn 1981, dechreuodd Gwerinwyr Gwent gŵyl dawnsio gwerin i blant – Gŵyl Plant Gwent. Mae ysgolion yn dal i gymryd rhan yn y digwyddiad blynyddol hwn yng Nghasnewydd, Cwmbrân a’r Fenni.

HISTORY

 

Established in 1976, and based in Newport, Gwerinwyr Gwent is a Welsh folk dance team aiming to keep alive the culture and tradition of Welsh music and dance.  The name of the team can be translated as ‘Folk people of Gwent’.

Since our formation, members of the team have competed or taken part in several National Eisteddfods.  We have visited festivals in Wales, England and Europe, and have also hosted many foreign teams on their trips to Wales.

In 1981, Gwerinwyr Gwent started a festival of Welsh folk dancing for children – Gŵyl Plant Gwent.  Many schools continue to participate in this annual event in Newport, Cwmbran and Abergavenny during June/July.

Photo 1.jpg
GG3.jpg
GG6.jpg
GG2.jpg
Photo 3.jpg
bottom of page